Amdanom ni
Côr CF1 yw un o gorau mwyaf llwyddiannus Cymru. Mae llwyddiannau’r côr yn cynnwys nifer o wobrau mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol a chanu gydag artistiaid byd enwog. Mae’r côr hefyd wedi perfformio mewn rhai o leoliadau mwyaf godidog y byd yn cynnwys Trinity Church Efrog Newydd, Cadeirlan Köln yn yr Almaen a Basilica St. Mark’s yn Fenis.
Ers ei sefydlu yn 2002, dan arweiniad Eilir Owen Griffiths, mae CF1 wedi datblygu o fod yn aelwyd i un o brif gorau cymysg Cymru. Ymhlith llwyddiannau’r côr mae ennill BBC Choir of the Year yn 2014, y wobr gyntaf yng Ngŵyl Gorawl Derry yn 2018 a’r wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Côr Cymysg yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Yn ogystal, mae’r côr wedi ennill y categori corau cymysg Côr Cymru ddwywaith, a chystadleuaeth côr cymysg yn yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith. Hefyd, yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019 coronwyd CF1 yn gôr yr ŵyl.
Mae’r côr wedi cael nifer o gyfleoedd cyffrous eraill fel gig Take That a Lulu yn 2019, canu yn agoriad swyddogol Canolfan Mileniwm Cymru yn 2004 a chanu yn Stadiwm Principality cyn gemau rhyngwladol, gan gynnwys Cwpan Rygbi’r Byd 2015. Yn 2016, cafodd y côr wahoddiad i ganu yng Nghynhadledd Mizoram Presbyterian Church yn Mizoram yn yr India. Mae’r côr hefyd wedi teithio i’r Unol Daleithiau, Canada, Gwlad Pwyl, Yr Almaen, Yr Eidal ac Iwerddon, heb anghofio ledled Cymru a Lloegr.
Mae CF1 wedi rhyddhau dwy CD hyd yn hyn ‘Côr Aelwyd CF1’ (2006) a ‘Con Spirito’ (2011).